Mae’r gweithgareddau yn yr adran yma’n fwy manwl ac estynedig. Nod y gweithgareddau hyn yw helpu i gynyddu hyder y dysgwyr wrth siarad a gwrando ar ieithoedd.

Mae’r adran yma’n cynnwys tair cân wreiddiol a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer Cerdd Iaith - yn Ffrangeg, Cymraeg a Saesneg. Ar bob tudalen mae disgrifiad byr o’r gweithgaredd ynghyd â ffeiliau sain, fideos, geiriau a nodiant y caneuon i’ch helpu chi a’ch dysgwyr i gyd-ganu gyda’r cerddorion.

Rydym hefyd wedi cynnwys geirfa ychwanegol lle bo angen.