Quel âge as-tu?

Defnyddiwch y saethau yn y gornel dde isaf i chwyddo sgrin y fideo.

Amcan:

Yn y gân yma, rydyn ni’n edrych ar bum elfen benodol: 

  • rhifolion benywaidd yn Gymraeg
  • y modd y mae ‘blwyddyn/blwydd’ yn treiglo yn Gymraeg – yn ddibynnol ar y rhif a ddaw o’i flaen
  • gwahanol ffyrdd yn y tair iaith o fynegi oedran (j'ai, dw i’n, I 'm etc.)
  • gwahanol ffyrdd yn y tair iaith o holi oedran person (‘Pa oed sydd gen ti?’ - Ffrangeg; Faint / Beth yw dy oedran di? - Cymraeg; How old are you? - Saesneg)
  • newid trefn y ferf a’r rhagenw yn y modd gofynnol yn Ffrangeg

Beth sydd angen i chi ei wneud:

Dechreuwch drwy wrando ar y gân. Yna edrychwch ar eiriau’r gân ym mhob iaith yn ei thro cyn gwrando ar y gân eto. Yna, cymal wrth gymal, gwrandewch ar sut i ynganu’r geiriau. Yna rhowch gynnig ar gyd-ganu gyda’r gerddoriaeth!

Gallwch ddewis sut yr ydych am weithio gyda’r gân; efallai y bydd yn well gennych rannu’r dosbarth i wahanol grwpiau gyda phob grŵp yn cymryd ei dro i ganu mewn iaith wahanol.

Geiriau

'Rwy'n ddwy flwydd oed', meddai Sion wrth Sian,

'J'ai deux ans', dit-il,

'I'm two, I'm two',

How old are you?

Quel âge as-tu?

Faint / Beth yw dy oedran di?

 

'Rwy'n dair blwydd oed', meddai Sian wrth Sion,

'J'ai trois ans', dit-elle,

'I'm three, I'm three',

How old are you?

Quel âge as-tu?

Faint / Beth yw dy oedran di?

'Rwy'n bedair blwydd oed', meddai Dai wrth Del, 

'J'ai quatre ans,' dit-il, 

'I'm four, I'm four',  

How old are you? 

Quel âge as-tu 

Faint / Beth yw dy oedran di? 

 

'Rwy'n bum mlwydd oed', meddai Del wrth Dai, 

'J'ai cinq ans', dit-elle, 

'I'm five, I'm five', 

How old are you? 

Quel âge as-tu? 

Faint / Beth yw dy oedran di? 

'Rwy'n chwe blwydd oed', meddai Bob wrth Bet, 

'J'ai six ans', dit-elle, 

'I'm six, I'm six', 

How old are you? 

Quel âge as-tu? 

Faint /Beth yw dy oedran di? 

 

'Rwy'n saith mlwydd oed', meddai Beth wrth Bob, 

'J'ai sept ans', dit-elle, 

'I'm seven, I'm seven' 

How old are you? 

Quel âge as-tu? 

Faint yw dy oedran di? 

 

Un, dau, tri, pedwar, pum, chwech, saith, 

One and two and three and four and five and six and seven, 

Un, deux, trois, quatre, cinq, six, sept ... 

Meddai Sian a Sion a Del a Dai a Bob a Bet! 

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn Lawrlwythiadau Geiriau