Cysylltiadau â’r Cwricwlwm

Mae gweledigaeth y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei ymgorffori yn y pedwar diben, sy’n amlinellu’r uchelgais a’r dyhead i weld holl blant a phobl ifanc Cymru’n tyfu i fod yn:      

- ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau                               

- cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith                           

- dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd                                                   

- unigolion iach a hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

 

Dylai holl weithgareddau dysgu a phrofiadau dysgwyr yn ein hysgolion eu galluogi i gamu’n hyderus tua’r pedwar diben yma.

Mae Cerdd Iaith yn cyflwyno dulliau addysgu a dysgu yn seiliedig ar y celfyddydau gan ddarparu cyfleoedd niferus i ddysgwyr ifanc ddatblygu nodweddion y pedwar diben, nid yn unig o ran Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, ond hefyd ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill.

“Mae dysgu a phrofiad yn y Maes hwn yn anelu at alluogi dysgwyr i gyfathrebu’n effeithiol gan ddefnyddio Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol. Mae’n anelu at annog dysgwyr i drosglwyddo’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu am sut mae ieithoedd yn gweithio mewn un iaith er mwyn dysgu a defnyddio ieithoedd eraill. Bwriedir i’r dull amlieithog a lluosieithog hwn danio chwilfrydedd a brwdfrydedd y dysgwyr a chynnig sylfaen gadarn iddyn nhw ddatblygu diddordeb gydol oes yn ieithoedd Cymru ac ieithoedd y byd, a thrwy hyn eu gwneud yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.”

“Yn y Maes hwn, gwelir ieithoedd fel allwedd i gydlyniant cymdeithasol, ac yn fodd i hyrwyddo gwell cyd-ddealltwriaeth yn lleol, cenedlaethol a byd-eang. Y nod yw annog dysgwyr i ymwneud yn feirniadol ag ieithoedd a llenyddiaeth er mwyn eu helpu i ddatblygu nid yn unig eu hunaniaeth ond hefyd eu dealltwriaeth o’r berthynas rhwng eu diwylliannau a’u cymunedau nhw a diwylliannau a chymunedau eraill. Gellir dyfnhau’r ddealltwriaeth hon wrth i ddysgwyr gael y cyfle i ddysgu sawl iaith. Mae angen yr wybodaeth ieithyddol hon a’r sgiliau hyn er mwyn cyfrannu at gymdeithas a hynny’n hyderus a chydag empathi, ac mae hyn yn cyfrannu at ddatblygu dysgwyr sy’n ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yn barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd.” 

- Cwricwlwm i Gymru, Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Nod Canllawiau Cwricwlwm i Gymru yw helpu pob ysgol i ddatblygu ei chwricwlwm ei hun, gan alluogi ei dysgwyr i ddatblygu tuag at bedwar diben y cwricwlwm – y man cychwyn a’r dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.