Sut i ddefnyddio Cerdd Iaith
Mae Cerdd Iaith yn hyblyg ac yn hawdd i’w ddefnyddio. Nid oes angen unrhyw hyfforddiant blaenorol, a gallwch addasu’r gweithgareddau i weddu i’ch dysgwyr, eich amserlen a’ch cyd-destun ieithyddol.
Mae’r adnoddau wedi’u rhannu’n weithgareddau Dechreuwyr ac Adeiladu Hyder, yn amrywio o gemau drama ac iaith syml i ganeuon gwreiddiol a gweithgareddau mwy datblygedig, aml-ran.
Darperir popeth sydd ei angen arnoch, gan gynnwys:
Gellir defnyddio’r gweithgareddau’n unigol, eu cyfuno i greu gwers, neu eu harchwilio drwy bum thema:
Cynlluniwyd y gwersi’n wreiddiol gyda sesiynau awr o hyd mewn golwg, ond gallwch ddewis a dethol gweithgareddau a’u haddasu i greu’r profiad dysgu cywir ar gyfer eich dosbarth.
Nodyn am Sbaeneg
Siaredir Sbaeneg mewn mwy nag 20 o wledydd, ac mae nifer o amrywiadau cydnabyddedig o’r iaith. Mae Cerdd Iaith yn cynnwys Sbaeneg o Sbaen a’r Ariannin, gan gyflwyno dysgwyr i amrywiaeth yr iaith wrth iddynt ddatblygu’r sgiliau a’r hyder i gyfathrebu.
Nodyn i ddysgwyr Cymraeg
Os yw eich disgyblion newydd ddechrau dysgu neu ddefnyddio’r Gymraeg, mae Cerdd Iaith yn ffordd wych o gyflwyno’r iaith mewn modd hamddenol, creadigol a hwyliog. Dechreuwch gyda gweithgareddau syml fel Pêl Goch a chaneuon hygyrch fel Tôn Gron.
Mae defnyddio cerddoriaeth, rhythm, ailadrodd a chwarae yn helpu dysgwyr i ymgyfarwyddo â seiniau a geirfa’r Gymraeg, gan feithrin eu hyder i ddeall a defnyddio’r iaith.