Voici!

Defnyddiwch y saethau yn y gornel dde isaf i chwyddo sgrin y fideo.

Amcan: 

Yn y gân yma, rydyn ni’n edrych ar bedair elfen benodol: 

  • cyfieithu ‘dyma’ (dangosol) - ‘this’, ‘voici’ 
  • cenedl enwau 
  • lleoliad rhagenwau  
  • yr ymadrodd idiomataidd, 'je crois que oui' 

Beth sydd angen i chi ei wneud:

Dechreuwch drwy wrando ar y gân. Yna edrychwch ar eiriau’r gân ym mhob iaith yn ei thro cyn gwrando ar y gân eto. Yna, cymal wrth gymal, gwrandewch ar sut i ynganu’r geiriau. Yna rhowch gynnig ar gyd-ganu gyda’r gerddoriaeth!

Gallwch ddewis sut yr ydych am weithio gyda’r gân; efallai y bydd yn well gennych rannu’r dosbarth i wahanol grwpiau gyda phob grŵp yn cymryd ei dro i ganu mewn iaith wahanol

Geiriau

Dyma hi'r gadair - rwy'n ei gweld hi, 

Voici la chaise - je la vois, 

This is the chair and I see it, do you? 

I think so, rwy'n meddwl, je crois ... que oui, oui, oui/ non, non, non. 

Dyma fe/fo'r bwrdd - rwy'n ei weld e/o, 

Voici la table, je la vois, 

This is the table, I see it, do you? 

I think so, rwy'n meddwl, je crois ... que oui, oui, oui/ non, non, non. 

 

 

Dyma'r pysgodyn - rwy'n ei weld e/o, 

Voici le poisson, je le vois, 

This is the fish and I see it, do you? 

I think so, rwy'n meddwl, je crois ... que oui, oui, oui/ non, non, non. 

 

Dyma'r sglodion, rwyn eu gweld nhw, 

Voici les frites, je les vois, 

These are the chips, I see them, do you? 

I think so, rwy'n meddwl, je crois ... que oui, oui, oui/ non, non, non. 

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn Lawrlwythiadau Geiriau