Cerdd Iaith Cerdd Iaith
  • Adnoddau
    • Dechreuwyr
    • Adeiladu Hyder
    • Geirfa
    • Themâu
    • Almaeneg
    • Ffrangeg
  • Sut i Ddefnyddio’r Adnodd Yma
    • Sut i Ddefnyddio’r Adnodd Yma
    • Cysylltiadau â’r Cwricwlwm
    • Cysylltu â ni
  • Amdanom ni
    • Amdanom ni
    • Cyfranwyr
  • English

Cerdd Iaith: Dod â dysgu ieithoedd yn fyw

Mae Cerdd Iaith yn adnodd creadigol ar gyfer dysgu ieithoedd mewn ysgolion cynradd yng Nghymru, gan ddefnyddio cerddoriaeth, drama, odl, rhythm ac ailadrodd i wneud dysgu ieithoedd yn ddifyr, yn hygyrch ac yn hwyl. Mae hefyd yn ffordd wych o gyflwyno’r Gymraeg i ddysgwyr sydd newydd ddechrau dysgu neu ddefnyddio’r iaith.

Wedi’i gynllunio ar gyfer disgyblion 7–11 oed, mae Cerdd Iaith yn cefnogi dysgwyr ar wahanol gamau o’u taith ieithyddol – o’r rhai sy’n cymryd eu camau cyntaf yn y Gymraeg i’r rhai sy’n dechrau archwilio Sbaeneg, Almaeneg a Ffrangeg. Mae ei ddull creadigol ac amlieithog yn helpu plant i greu cysylltiadau rhwng ieithoedd ac i ddatblygu eu hyder, eu chwilfrydedd a’u sgiliau cyfathrebu.

Mae Cerdd Iaith yn cefnogi Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu Cwricwlwm i Gymru, gan roi ffordd ymarferol a hwyliog i athrawon gyflwyno dysgu amlieithog yn yr ystafell ddosbarth.

  • Dechreuwyr
  • Adeiladu Hyder
  • Geirfa
  • Themâu
  • Almaeneg
  • Ffrangeg

Datblygwyd Cerdd Iaith gan British Council Cymru, gan weithio’n agos gydag athrawon ysgolion cynradd ac ieithyddion, cerddorion ac ymarferwyr creadigol blaenllaw. Mae’n cynnwys caneuon gwreiddiol a grëwyd yn arbennig ar gyfer y rhaglen gan yr Athro Mererid Hopwood, un o lenorion a beirdd mwyaf adnabyddus Cymru, a’r cyfansoddwyr Gareth Glyn a Tim Riley.

 

Hawdd i’w ddefnyddio yn eich ystafell ddosbarth

Nid oes angen unrhyw hyfforddiant blaenorol mewn ieithoedd na cherddoriaeth i ddechrau arni. Mae Cerdd Iaith yn darparu popeth sydd ei angen arnoch, gan gynnwys gweithgareddau cam wrth gam, fideos, caneuon gwreiddiol, geiriau, cerddoriaeth ddalen a syniadau ar gyfer ymestyn y dysgu.

Dewiswch o blith gweithgareddau Dechreuwyr ac Adeiladu Hyder a’u defnyddio’n unigol, eu cyfuno i greu gwers, neu archwilio’r adnoddau drwy bum thema: Patagonia, Fi, Y Traeth, Natur, ac Amser a Lle.

Mae ysgolion ledled Cymru wedi defnyddio Cerdd Iaith yn llwyddiannus i gyflwyno’r Gymraeg ac ieithoedd rhyngwladol yn yr ystafell ddosbarth, gan helpu plant i ddarganfod y pleser o gyfathrebu, creu a dysgu gyda’i gilydd mewn gwahanol ieithoedd.

Llun: Patric Olner.

  • British Council of Wales
  • Paul Hamlyn Foundation
  • ERW
  • University of Wales Trininty Saint David
  • BBC National Orchestra of Wales
© CerddIaith 2026 | Gwefan gan Tinint