Amdanom ni

Hoffai tîm Cerdd Iaith roi diolch arbennig i’r Athro Mererid Hopwood a Dr Sian Brooks yn Yr Athrofa, Anna Vivian Jones yn ERW a’r cyfansoddwr Tim Riley. Hebddyn nhw, ni fyddem wedi gallu creu’r adnodd yma.

Dechreuodd Cerdd Iaith fel prosiect addysgu creadigol i archwilio dulliau newydd o addysgu a dysgu cerddoriaeth ag ieithoedd mewn ysgolion cynradd yn Ne a Gorllewin Cymru. Cafodd y prosiect gwreiddiol ei gyflwyno gan British Council Cymru mewn partneriaeth gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Yr Athrofa – Addysg i Gymru ac Ein Rhanbarth ar Waith (ERW). Ariannwyd y fenter gan Gronfa Datblygu Athrawon Sefydliad Paul Hamlyn.

Ym mis Medi 2016, dechreuodd arweinwyr y prosiect (cerddorion ag ieithyddion ynghyd â thîm British Council Cymru) gydweithio gydag athrawon o ysgolion yn Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Buon nhw’n archwilio dulliau dysgu gweithredol yn seiliedig ar gerddoriaeth fel cyfrwng i hybu addysgu a dysgu ieithoedd modern drwy ddefnyddio ymarferion cerddoriaeth a drama.

Gallwch ddarllen mwy am y broses mewn blog gan Rebecca Gould, Arweinydd y Prosiect a Phennaeth y Celfyddydau, British Council Cymru yma: Dysgu Trwy Brofiad 

Mae nifer y disgyblion sy’n dewis astudio ieithoedd tramor modern yn ysgolion Cymru a Lloegr yn dirywio. Ond mae tystiolaeth hefyd sy’n awgrymu fod cyflwyno ieithoedd rhyngwladol i ddysgwyr ifanc yn cynyddu eu hyder, gwybodaeth, sgiliau a’u diddordeb mewn ieithoedd ychwanegol wedi iddynt symud i’r ysgol uwchradd ac yna fel oedolion.

Nod prosiect Cerdd Iaith yw cefnogi ac ysgogi addysgu a dysgu ieithoedd tramor mewn ysgolion cynradd. Rydyn ni eisiau helpu ysgolion cynradd i:

- sicrhau fod dysgwyr ifanc yn hyderus wrth ddefnyddio eu sgiliau yn y Gymraeg

- meithrin agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith

- sbarduno ymwybyddiaeth o’r cysylltiadau rhwng ieithoedd a meithrin gwerthfawrogiad o batrymau iaith yn ogystal â diddordeb ynddynt

- cynyddu’r defnydd o’r iaith yn yr ysgol a thu allan i’r ysgol

Mae prawf fod y dull addysgu a dysgu creadigol a ddefnyddir yn yr adnodd yma’n cynyddu rhychwant, dyfnder ac effaith hir-dymor y profiad dysgu. Mae’r ffocws ar weithgareddau corfforol sy’n defnyddio’r ‘corff cyfan’ yn helpu dysgwyr ifanc i brosesu a chofleidio ieithoedd newydd a’u hannog i fagu hyder yn gyflym wrth ddefnyddio geiriau newydd. Mae hefyd yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer dysgu ail iaith ac ieithoedd eraill wedi hynny.

Mae Dr Jessica Mordsley yn esbonio mwy am sut mae’r dull addysgu a dysgu yma’n gweithio yn yr erthygl yma: ‘Why use rhythm, rhyme and repetition in language class?'