Beth sy’n gyffredin rhyngoch chi â’ch ffrindiau? Pa bethau sydd yr un peth? Pa bethau sy’n wahanol? Oes unrhyw un sydd yn union yr un peth â chi?
Petai chi’n gallu newid eich hunan am ddiwrnod, beth fyddech chi’n ei newid? Lliw eich llygaid? Eich taldra?
Ysgrifennwch lythyr at rywun sydd ddim yn eich adnabod. Rhaid i chi gyflwyno eich hunan yn Sbaeneg, Cymraeg a Saesneg. Rydych chi siwr o fod yn gallu dweud mwy o bethau nag yr ydych yn sylweddoli!
Pa ieithoedd eraill mae eich ffrindiau yn gallu siarad? Gofynnwch iddyn nhw ddweud ‘Helo’ yn eu mamiaith.