Dwy Iaith, Dwy Ffenest

Defnyddiwch y saethau yn y gornel dde isaf i chwyddo sgrin y fideo. Mae’r geiriau Saesneg yn dechrau 2 funud ar ôl y geiriau Cymraeg.

Yn fy mhen y mae dwy ffenest

i weld y byd yn well,

drwy’r naill rwy’n gweld montañas,

drwy’r llall y moroedd pell.

 

Drwy un rwy’n cyfri’r blodau

gan ddweud ‘un, dau, tri’, o hyd,

drwy’r llall rwy’n cyfri’r adar

sy’n uno, dos, tres, uwch y byd.

 

Rwy’n agor un a gweiddi:

‘Helo ’na! Sut wyt ti?’

O’r llall rwy’n mentro holi:

‘¿Tienes algo para mi?’

 

At y naill fe ddaw mis amigos

â’u sonrisas yn chwerthin iach,

at y llall daw’r straeon doniol

gan griw o ffrindiau bach.

 

A rhwng y ddwy rwy’n gwybod

mod i’n gyfoethog iawn –

mae gen i ddau o bopeth,

mae ’myd i gyd yn llawn!'

In my head I have two windows

through which I watch the world,

from one I see a pájaro,

from the other just a bird.

 

Through one I count the flowers

by chanting ‘one, two, three’,

through the other I count the meadows

with ‘uno, dos, tres’ – do you see?

 

I open one and listen

to the voice of a leaf on a tree,

then the wind asks through the other

‘¿Cantas algo para mi?’

 

To one I call mis amigos,

they come with sonrisas and smiles,

to the other I call for stories

that travel many miles.

 

And thanks to these two windows

I’m richer than any king –

my world is overflowing,

I have two of everything!

-

AMCAN: Ysgogi a thanio brwdfrydedd i ddysgu ieithoedd.

Cafodd y gân ‘Dwy Ffenest’ ei chyfansoddi’n arbennig ar gyfer prosiect Cerdd Iaith. Mae’n cael ei chanu yn Gymraeg a Saesneg ac mae’n sôn am y cyfleoedd anhygoel a ddaw wrth ddysgu ieithoedd. Defnyddir yr un dôn ar gyfer pob pennill, ond gellir eu canu fel tôn gron hefyd.

Beth sydd angen i chi ei wneud:

Cymerwch un iaith ar y tro. Dysgwch bob pennill yn ei dro. Pan mae’r dysgwyr yn teimlo’n hyderus, ceisiwch ganu’r gân gyfan.

Nesaf, rhannwch y dysgwyr yn ddau grŵp. Mae’r grŵp cyntaf yn dechrau canu’r penillion Cymraeg. Ar ôl pedwar bar, mae’r ail grŵp yn dechrau canu’r geiriau Saesneg o’r dechrau.

 

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn Lawrlwythiadau