Gwynt Taranau Mellt

AMCAN:  Datblygu sgiliau iaith trwy ddefnyddio gemau drama a thrwy wrando, ail-adrodd a chyfranogi.

Mae angen i bawb fod ar flaenau eu traed ar gyfer y gêm gynhesu chwim yma. Os oes unrhyw un yn oedi neu’n gwneud camgymeriad wrth chwarae, yna maen nhw allan o’r gêm. Daliwch i chwarae nes taw dau yn unig sydd ar ôl. Nhw sy’n ennill y gêm.

Beth sydd angen i chi ei wneud:

Mae’r disgyblion yn sefyll mewn cylch. Dechreuwch drwy basio clap rownd y cylch. Nawr, wrth glapio, dywedwch y gair ‘Gwynt’, Le vent’, ‘Wind’. Treuliwch amser yn pasio’r clap a’r gair i’r ddau gyfeiriad rownd y cylch.


Nesaf, cyflwynwch ‘Mellt’ - sy’n cael ei basio ar draws y cylch i’r person sy’n sefyll gyferbyn. Mae’r dysgwyr yn ymestyn eu breichiau wrth basio’r fellten ar draws y cylch wrth iddyn nhw ddweud y gair ‘Mellt’, ‘Le tonnerre’, ‘Lightning’. Rhaid i’r dysgwyr ddal llygad y person y maent yn ei daro gyda’r fellten fel ei bod yn glir i ble mae’r fellten yn mynd.

Nawr, gallwch ymarfer danfon y Gwynt a’r Mellt gyda’i gilydd. Gall y dysgwyr basio’r gwynt i’r person sydd i’r chwith neu’r dde, yna gallant ddanfon mellten ar draws y cylch.

Nawr mae’n bryd am daranau. Mae ‘Taran’ yn bownsio’r gwynt a’r mellt yn ôl i ble y daethon nhw’n wreiddiol. Os yw dysgwr wedi derbyn ‘Gwynt’ neu ‘Fellt’, gall ei ddanfon yn ôl drwy ddefnyddio ‘Taran’. I ddanfon ‘Taran’, mae’r plant yn codi eu breichiau gyda chledrau eu dwylo’n wynebu tuag i fyny a rhuo ‘Taran’, 'L‘éclair ’, ‘Thunder’. Nawr, rhaid i’r person a ddanfonodd y gwynt a’r mellt draw yn wreiddiol geisio pasio’r tywydd draw at rywun arall.


Ymestyn:

Gallwch gychwyn drwy ddefnyddio sŵn yn unig i gynrychioli’r gwynt, mellt a tharanau cyn cyflwyno’r geiriau Cymraeg, Ffrangeg neu Saesneg.

 

 

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn