Ryseitiau

girl cooking
Dangos Cuddio
Dangos Cuddio

AMCAN: Annog dysgwyr i ymestyn eu geirfa

Bydd disgyblion yn derbyn cerdyn gyda chynhwysyn sydd ganddynt a dau/tri arall sydd eu hangen arnynt. Yna mae'r disgyblion yn mynd ar helfa i ddod o hyd i'w tîm (rysáit). Gallant ddefnyddio’r strwythurau canlynol yn Ffrangeg/Cymraeg i gyfathrebu:

J'ai…. Mae gen i…  I have….

J’ai besoin de …..  Mae angen… arna’ i.     I need ….

As- tu…? Oes gen ti…? Do you have…?

Je n'ai pas... Does dim... gen i.    I don't have....

Unwaith y bydd eu tîm (rysáit) wedi'i gwblhau, gallant ddechrau dyfalu ar gyfer pa bryd y mae eu rysáit.

Beth sydd angen i chi ei wneud

Cyfarwyddwch eich grŵp â geirfa am fwyd/cynhwysion sylfaenol. Gallwch hefyd ddefnyddio'r adran geirfa ffrwythau a llysiau.

Ymestyn

Gall disgyblion greu rhestr gynhwysion o'u hoff bryd. Mae'n rhaid i'w cyfoedion ddyfalu beth yw eu hoff bryd.

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn Geiriau Mwy o Fwyd