Amcan: Cael hwyl a chynhesu’r corff. Ymarfer gwrando, ac annog dysgwyr i ddefnyddio cwestiynau ac atebion yn gywir.
Mae’r disgyblion yn symud o gwmpas y stafell ddosbarth. Mae’r athro’n enwi lliw yn Ffrangeg/Cymraeg/ Saesneg. Mae’r disgyblion yn rhedeg i ddod o hyd i wrthych o’r lliw hwnnw a rhoi eu bys arno.
Nesaf, mae’r disgyblion yn dewis eu hoff liw. Mae'r athro'n gofyn...
Quelle est ta couleur préférée? Beth yw dy hoff liw? What´s your favourite colour?
Mae'r disgyblion yn ateb yn yr un iaith, ac yn dod o hyd i wrthrych i bwyntio ato/cyffwrdd sy'n dangos eu hoff liw.
Ma couleur préféré est … …… Fy hoff liw yw… My favourite color is…...