Dwi'n Hoffi

boy with thumbs up
Dangos Cuddio
Dangos Cuddio
Dangos Cuddio

Amcan: Annog y dysgwyr i fynegi eu hunain a chyflwyno technegau cofio.

Mewn cylch neu wrth sefyll ar ei draed, mae’r dysgwr cyntaf yn dweud brawddeg yn Almaeneg, Saesneg neu Gymraeg gan ychwanegu rhywbeth (enw) y mae’n ei hoffi.

J'aime…… Dw i’n hoffi… I like…..

Mae’r ail ddysgwr yn dweud wrth y grŵp beth mae’r dysgwr cyntaf yn ei hoffi, ac yna’n ychwanegu’r peth y maen nhw’n ei hoffi.

Paul aime les pizzas et j’aime le chocolat ... Mae Paul yn hoffi pizza a dw i'n hoffi siocled... Paul likes pizza and I like chocolate.

Mae’r dysgwr nesaf yn dilyn yr un drefn, gan ychwanegu’r peth y maen nhw’n ei hoffi ar y diwedd. Bydd y dysgwr olaf yn rhestri’r pethau y mae pawb arall yn eu hoffi cyn ychwanegu ei hoff beth ei hunan.

Beth sydd angen i chi ei wneud:

Defnyddiwch yr adran eirfa i sicrhau fod y dysgwyr yn gyfarwydd ag enwau bwydydd a geiriau’n ymwneud â bwyd. I ddechrau, rhannwch y dysgwyr i grwpiau llai.

Ymestyn:

Mae’r dysgwyr yn dewis pa bynnag iaith maen nhw eisiau, ond rhaid i’r dysgwr nesaf yn y gadwyn ddefnyddio iaith wahanol i’r dysgwr blaenorol ar gyfer y frawddeg gyfan.

 Dysgwr A - J'aime le chocolat

Dysgwr B - Paul likes pizza and I like chocolate

Dysgwr C - Mae Paul yn hoffi pizza, mae Samira yn hoffi siocled a dw i'n hoffi cacen.

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn