Sut Wyt Ti?

Girl with emoji signs
Dangos Cuddio
Dangos Cuddio
Dangos Cuddio

Amcan: I ddisgyblion barhau i fod yn weithredol yn gorfforol tra’n ymarfer ymadrodd newydd mewn ffordd chwareus.

Mewn cylch neu’n sefyll yn y stafell ddosbarth, mae’r disgyblion yn derbyn cerdyn gydag emoji. Mae un person yn dechrau’r gêm wrth gamu allan o’r cylch a cherdded o’i amgylch. Yna maen nhw’n aros y tu ôl i berson o’u dewis, cyffwrdd â’u hysgwydd a gofyn “Comment vas-tu? ” / “How are you?” Mae’r person arall yn ateb yn ôl y cerdyn emoji. Yna maen nhw’n camu allan o’r cylch.

Beth sydd angen ei wneud:

Dod yn gyfarwydd gyda’r strwythur “Comment vas-tu?” yn ogystal â’r dewisiadau wrth ateb.

Ychwanegiad:

I ychwanegu mwy o hwyl i’r gweithgaredd, gall yr athro ofyn i’r disgyblion actio eu emojis wrth ateb. Mae hyn hefyd yn ffordd wych o gyflwyno ac ymarfer goslefau gwahanol.

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn