Helo Fy Enw i Yw

Kids with hello signs
Dangos Cuddio
Dangos Cuddio
Dangos Cuddio

Nod: Annog disgyblion i gynhesu eu lleisiau a’u cyrff, mireinio eu sgiliau gwrando a thanio’u dychymyg creadigol. Cyflwyno cyfarchion syml yn Gymraeg/Ffrangeg/Saesneg.

Mewn cylch neu yn sefyll yn y stafell ddosbarth, mae disgyblion yn cyflwyno’u hunain gyda’r ymadrodd ‘Helo, fy enw i yw…’ yn Ffrangeg/Saesneg neu Gymraeg, ac ychwanegu symudiad haniaethol wrth iddyn nhw ei ddweud.

Gall y symudiad fod mor syml ag ysgwyd llaw neu’r cluniau neu naid seren neu ymestyn. Wedi iddyn nhw wneud hyn i gyd, mae’r disgyblion yn ailadrodd y frawddeg a’r symudiad gyda’i gilydd.

Ychwanegiad:

Defnyddio’r adran Geirfa  i adeiladu’r brawddegau:

Hello my name is…. and my favourite hobby / food / sport is... (plus action demonstrating that favourite thing).

Bonjour, je m'appelle…. et mon passe-temps / nourriture / sport préféré est ...

Helo fy enw i yw… ac fy hoff ddiddordeb yw... / fy hoff fwyd yw…  / fy hoff chwaraeon yw...

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn