Nod: Annog disgyblion i gynhesu eu lleisiau a’u cyrff, mireinio eu sgiliau gwrando a thanio’u dychymyg creadigol. Cyflwyno cyfarchion syml yn Gymraeg/Ffrangeg/Saesneg.
Mewn cylch neu yn sefyll yn y stafell ddosbarth, mae disgyblion yn cyflwyno’u hunain gyda’r ymadrodd ‘Helo, fy enw i yw…’ yn Ffrangeg/Saesneg neu Gymraeg, ac ychwanegu symudiad haniaethol wrth iddyn nhw ei ddweud.
Gall y symudiad fod mor syml ag ysgwyd llaw neu’r cluniau neu naid seren neu ymestyn. Wedi iddyn nhw wneud hyn i gyd, mae’r disgyblion yn ailadrodd y frawddeg a’r symudiad gyda’i gilydd.
Ychwanegiad:
Defnyddio’r adran Geirfa i adeiladu’r brawddegau:
Hello my name is…. and my favourite hobby / food / sport is... (plus action demonstrating that favourite thing).
Bonjour, je m'appelle…. et mon passe-temps / nourriture / sport préféré est ...
Helo fy enw i yw… ac fy hoff ddiddordeb yw... / fy hoff fwyd yw… / fy hoff chwaraeon yw...