Gweithgareddau Adeiladu Hyder
Mae’r gweithgareddau mwy datblygedig a manwl hyn, ynghyd â chaneuon gwreiddiol Cerdd Iaith, yn helpu dysgwyr i fagu hyder wrth siarad a gwrando ar wahanol ieithoedd, gan gyflwyno iaith a dysgu mwy cymhleth.
Mae’r caneuon yn cynnwys Sbaeneg, Cymraeg a Saesneg, gydag adnoddau sain, fideos, geiriau, cerddoriaeth ddalen a geirfa ychwanegol i gefnogi’r dysgu. Mae caneuon Ffrangeg ac Almaeneg i’w gweld yn y tabiau ar wahân uchod.