Cerdd Iaith Cerdd Iaith
  • Adnoddau
    • Dechreuwyr
    • Adeiladu Hyder
    • Geirfa
    • Themâu
    • Almaeneg
    • Ffrangeg
  • Sut i Ddefnyddio’r Adnodd Yma
    • Sut i Ddefnyddio’r Adnodd Yma
    • Cysylltiadau â’r Cwricwlwm
    • Cysylltu â ni
  • Amdanom ni
    • Amdanom ni
    • Cyfranwyr
  • English
  • Dechreuwyr
  • Adeiladu Hyder
  • Geirfa
  • Themâu
  • Almaeneg
  • Ffrangeg
Mynd yn ôl
Dechreuwyr

Gweithgareddau Dechreuwyr

Mae’r gweithgareddau hyn yn cyflwyno geiriau ac ymadroddion syml mewn gwahanol ieithoedd i ddisgyblion, gan ennyn diddordeb y corff a’r meddwl i gefnogi dysgu gweithredol.

Mae pob gweithgaredd yn cynnwys amcan dysgu clir a chyfarwyddiadau cam wrth gam, gyda dolenni i weithgareddau bwrdd gwyn a geirfa ychwanegol lle bo hynny’n berthnasol.

Adeiladu Hyder

Gweithgareddau Adeiladu Hyder

Mae’r gweithgareddau mwy datblygedig a manwl hyn, ynghyd â chaneuon gwreiddiol Cerdd Iaith, yn helpu dysgwyr i fagu hyder wrth siarad a gwrando ar wahanol ieithoedd, gan gyflwyno iaith a dysgu mwy cymhleth.

Mae’r caneuon yn cynnwys Sbaeneg, Cymraeg a Saesneg, gydag adnoddau sain, fideos, geiriau, cerddoriaeth ddalen a geirfa ychwanegol i gefnogi’r dysgu. Mae caneuon Ffrangeg ac Almaeneg i’w gweld yn y tabiau ar wahân uchod.

Geirfa

Geirfa: Archwiliwch eirfa ar draws pum thema Cerdd Iaith i helpu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith a phrofi eu cynnydd.

Mae sain ar gael ar gyfer pob gair. Dewiswch y faner berthnasol i glywed y gair yn Gymraeg, Sbaeneg neu Saesneg.

Mae’r geiriau wedi’u cuddio pan fydd y dudalen yn agor, felly gallwch eu datgelu fesul un er mwyn ymarfer, adolygu neu brofi’r dysgu.

Themâu

Themâu

Mae holl weithgareddau Cerdd Iaith yn cysylltu â’r themâu isod. Gallwch archwilio un thema dros dymor, cyfuno gweithgareddau a gweithgareddau estyn, neu ganolbwyntio ar thema wahanol ym mhob gwers.

Mae pob thema yn cynnwys syniadau trafod a chwisiau i gefnogi ac ymestyn y dysgu.

Almaeneg

Gweithgareddau a Chaneuon Almaeneg

Wedi’u datblygu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Goethe-Institut, Prifysgol Aberystwyth a Chyngor Sir Ceredigion, mae’r adnoddau Cerdd Iaith hyn yn defnyddio Almaeneg, Cymraeg a Saesneg i wneud dysgu ieithoedd yn greadigol, yn ddifyr ac yn hwyl.

Archwiliwch y gweithgareddau a’r caneuon isod, sydd wedi’u cynllunio i athrawon a disgyblion eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth neu gartref.

Ffrangeg

Gweithgareddau a Chaneuon Ffrangeg

Wedi’u datblygu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae’r adnoddau Cerdd Iaith hyn yn defnyddio Ffrangeg, Cymraeg a Saesneg i wneud dysgu ieithoedd yn greadigol, yn ddifyr ac yn hwyl.

Archwiliwch y gweithgareddau a’r caneuon isod, sydd wedi’u cynllunio i athrawon a disgyblion eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth neu gartref.

  • British Council of Wales
  • Paul Hamlyn Foundation
  • ERW
  • University of Wales Trininty Saint David
  • BBC National Orchestra of Wales
© CerddIaith 2026 | Gwefan gan Tinint