Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
Caiff y wybodaeth hon ei diweddaru o dro i dro. Diweddarwyd y cynnwys hwn ddiwethaf ar 22 Rhagfyr 2014.
Rydym yn ystyried y gwaith o drin gwybodaeth bersonol yn gywir yn rhan bwysig o'n gweithrediadau llwyddiannus, yn ogystal â chadw cyfrinachedd o ran ein cleientiaid. Yn hynny o beth, bydd y datganiad hwn yn berthnasol i bob un o'n swyddfeydd ni waeth lle y maent wedi'u lleoli.
Gallwch ddarllen ein polisi llawn ar breifatrwydd yn Saesneg.
Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i'ch gwahanu rhag eraill sy'n defnyddio'r wefan heb storio unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch y gellid ei hadnabod. Mae hyn yn ein helpu i roi profiad da i chi pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan ac yn ein galluogi i wella ein safle.
Gallwch ddarllen ein polisi llawn ar y defnydd o gwcis yn Saesneg.
Mae'r British Council yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn chwilio am ffyrdd newydd ac agored o ymgysylltu â'r gymuned fyd-eang. Er mwyn meithrin uniondeb ac ymddiriedaeth, mae'n bwysig ein bod yn gosod esiampl wrth gyflwyno mwy o'n sefydliad i'r byd.
Gallwch ddarllen ein polisi llawn ar ryddid gwybodaeth yn Saesneg.
Mae'r British Council wedi nodi gwybodaeth arbennig ar sut y gallwch ddefnyddio'r safle hwn. Yma gallwch ganfod gwybodaeth ar sut y cafodd y safle ei ddylunio er mwyn iddo fod yn hygyrch i bawb. Gallwch ganfod hefyd manylion am sut i wneud cwyn.
Mae gan y British Council delerau ac amodau ar ddefnyddio'r wefan hon a dolenni sy'n arwain i mewn ac allan o'r safle.
Gallwch ddarllen ein telerau ac amodau llawn yn Saesneg.
Rydym wedi gwneud pob ymdrech i wneud http://wales.britishcouncil.org/ yn hawdd i bawb, ni waeth pa borwr rydych yn dewis ei ddefnyddio a ph'un a ydych yn defnyddio offer arbennig i'w ddefnyddio ai peidio.
Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am fesurau hygrchedd gwefan y British Council yn Saesneg.
Fel sefydliad cysylltiadau diwylliannol, mae gan y British Council bolisïau y mae'n glynu wrthynt:
Mae'r British Council yn cydnabod fod gennym ddyletswydd gofal dros bob plentyn rydym yn ymwneud â hwy, gan gynnwys dyletswydd i'w amddiffyn rhag cael eu cam-drin. Rydym yn cyflawni hyn drwy gydymffurfio â chyfreithiau amddiffyn plant y DU a chyfreithiau eraill ym mhob un o'r gwledydd rydym yn gweithredu ynddynt, yn ogystal â chydymffurfio â Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC) 1989.
Gallwch ddarllen einpolisi llawn ar amddiffyn plant yn Saesneg.
Mae'r British Council yn ymrwymedig i gyrraedd safonau'r DU a safonau rhyngwladol o ran rheoli ein heffaith amgylcheddol. Rydym yn cydnabod effaith ein gweithrediadau a'n gweithgareddau busnes ar yr amgylchedd. Rydym hefyd yn cydnabod sut y gall newid yn yr hinsawdd fygwth ffyniant, cyfiawnder cymdeithasol ac ansawdd bywyd. Rydym felly yn ymrwymedig i reoli a lleihau ein heffaith amgylcheddol.
Gallwch ddarllen ein polisi amgylcheddol llawn islaw.
Mae'r British Council yn creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill gan feithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang. Mae ein gwaith yn cynnwys datblygu cydberthnasau â phobl o ystod eang o gefndiroedd a diwylliannau. Mae gweithio'n effeithiol gydag amrywiaeth a hyrwyddo cyfle cyfartal felly yn rhan hanfodol o'n gwaith.
Gallwch ddarllen ein polisi llawn yn Saesneg i ganfod sut rydym yn cynnwys cyfle cyfartal ac amrywiaeth yn ein rhaglenni a'n prosiectau a phwy y gallwch gysylltu â hwy am ragor o wybodaeth.