Beth yw eich hoff beth i wneud ar y traeth? Tynnwch lun o’r diwrnod perffaith i chi ar y traeth.
Ydych chi wedi bod i unrhyw draethau enwog? Ble hoffech chi fynd?
Sut fyddech chi’n disgrifio’r traeth i rywun o blaned arall? Ydych chi’n gallu defnyddio geiriau Sbaeneg, Cymraeg a Saesneg?
Beth fyddai’r pryd bwyd mwyaf rhyfedd i’w fwyta ar y traeth? Sut fyddech chi’n coginio’r bwyd yma?
Ffeindiwch luniau o’r pethau sydd angen eu pacio ar gyfer trip i’r traeth. Defnyddiwch y lluniau i greu collage. Ffeindiwch enwau’r pethau yma mewn ieithoedd gwahanol!