Patagonia – Trafod Ymhellach

Dychmygwch eich bod yn blentyn ar eich ffordd i Batagonia ar fwrdd y Mimosa. Beth ydych chi’n gallu ei weld, clywed, arogli? Sut ydych chi’n teimlo am y daith? Ysgrifennwch ddyddiadur i ddisgrifio eich taith.

 

Sut mae bywyd ym Mhatagonia heddiw? Sut mae hynny’n debyg neu’n wahanol i’ch bywyd chi yng Nghymru?

 

Petai person o Batagonia yn dod i aros gyda chi, pa gwestiynau fyddech chi eisiau gofyn iddyn nhw? Beth hoffech chi ddangos iddyn nhw yng Nghymru? Gwnewch gynllun ar gyfer trip o gwmpas Cymru – i weld pob math o lefydd a phethau diddorol. Oes unrhyw eiriau rydych chi wedi eu dysgu y gallwch eu defnyddio wrth ddisgrifio’r trip?