Dyma grynodeb o’r hyn a ddigwyddodd pan gyrhaeddodd y 153 o Gymry a hwyliodd ar y Mimosa i Batagonia ar yr 28ain o Orffennaf, 1865.

 

Mae William Jenkins (19 oed) yn dringo i’r gawell ar ben prif fast y Mimosa ac yn gweld tir yr Ariannin ar y gorwel am y tro cyntaf.

Bydd y Mimosa yn hwylio am y rhan fwyaf o weddill y dydd cyn bwrw angor ym Mae Newydd. 

Drannoeth, mae’r criw glanio yn gadael y Mimosa. Hugh Hughes (40 oed) yw’r cyntaf i gyrraedd y lan. Mae’n syrthio ar ei benglinniau, ac yn cusanu’r ddaear.

Mae 16 o gabanau a stordy mawr yn barod ar eu cyfer yno. Cafodd y rhain eu paratoi gan y criw a aeth o’u baennau.

Ar ôl cysgodi yn y cabanau di-do ac mewn ogofâu am rhai dyddiau, aeth y rhan fwyaf o’r menywod a’r plant yn ôl i lochesu ar fwrdd y Mimosa.

Mae’r dynion yn tynnu’r gwelyau o fwrdd y llong er mwyn defnyddio’r pren i wneud toeon newydd ar gyfer y cabanau.

Maen nhw’n claddu un o’r plant a fu farw ar y fordaith. Mae plentyn arall yn marw ar ddiwrnod cyntaf y glaniad.

Maen nhw’n ffeindio fod y ffynnon yn llawn dŵr môr, ac felly rhaid i’r fintai fynd i ffeindio dŵr glân a chroyw – taith o dair milltir.

Maen nhw’n gadael tir y glannau ac yn dechrau archwilio tir y wlad newydd. Maen nhw’n goroesi drwy bysgota a hela.

Ymhen amser maen nhw’n dod i gysylltiad â brodorion y tir yma, sef pobl y Tehuelche – sy’n eu helpu i hela a chasglu bwyd.

Mae’r fintai’n teithio 30 milltir i’r de, i Ddyffryn Camwy. Dyma le maen nhw’n dechrau ymgartrefu.