Mae’r fersiwn yma o anthem genedlaethol Patagonia yn debyg iawn i anthem genedlaethol Cymru.

Ceisiwch ganu geiriau anthem genedlaethol Patagonia i dôn anthem genedlaethol Cymru.

Cymru

 

Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi,

Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;

Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad,

Dros ryddid collasant eu gwaed.

 

Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad.

Tra môr yn fur i'r bur hoff bau,

O bydded i'r hen iaith barhau.

 

 

The land of my fathers is dear unto me,

A land where the minstrels are honoured and free,

Its warring defenders, so gallant and brave,

For freedom their life's blood they gave.

 

Wales, Wales, true am I to Wales,

While seas secure the land so pure,

O may the old language endure.

Patagonia

 

Y mae Patagonia yn annwyl i ni,

Gwlad newydd y Cymry mwyneiddlon yw hi ;

Anadlu gwir ryddid a gawn yn y wlad,

O gyrraedd gormesiaeth a brad.

 

Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i’m gwlad,

Tra haul y nen uwchben ein pau,

O ! Bydded i’r Wladfa barhau.

 

 

The land of Patagonia is dear unto me

A new Welsh country, kind is she

True freedom we’ll breathe in this country,

From the reach of oppression and treason,

 

Land, land, I am true to my land.

While the sun is in the heavens above our land,

O, may the Wladfa endure.