Amser a Lle- Trafod yn y Dosbarth

Beth yw’r gwahaniaeth amser rhwng Cymru, Sbaen a’r Ariannin? Pan mae’n amser mynd i’r gwely yma yng Nghymru, beth mae pobl yn ei wneud yn yr Ariannin?  Edrychwch ar y gwahaniaethau amser rhwng gwledydd ar draws y byd. Petaech chi’n teithio i’ch hoff wlad, a fyddech chi’n ennill amser neu’n colli amser?

 

Ydych chi’n gallu ffeindio geiriau sy’n edrych yr un peth neu sy’n swnio’r un peth yn Sbaeneg, Cymraeg neu Saesneg?

 

Faint o amser fyddai hi’n ei gymryd i chi hedfan i’r Ariannin? Yn yr un faint o amser, faint o weithiau fyddech chi’n gallu hedfan i Sbaen?