Canwch gyda’r cantorion a’r cerddorion
Dwi wedi blino, beth yw’r ots?
Dwi wedi blino, beth yw’r ots?
Dwi eisiau dawnsio’r tango, tango, tango tango
Dwi eisiau dawnsio
Mae eisiau bwyd arnaf i
Mae syched arnaf i
Mae ofn arnaf i
Mae peswch arnaf i
I’m tired, I’m tired,
I’m tired, I’m tired
But still I feel like dancing the tango, tango, tango, tango
Yes, I feel like dancing
I’m hungry
I’m thirsty
I’m afraid
I have a cough
Tengo sueño, sin embargo (Dwi wedi blino, beth yw’r ots?)
Tengo sueño, sin embargo (Dwi wedi blino, beth yw’r ots?)
Tengo ganas de bailar el tango, tango, tango, tango (Dwi eisiau dawnsio’r tango, tango, tango tango)
Tengo ganas de bailar (Dwi eisiau dawnsio)
Tengo hambre (Mae eisiau bwyd arnaf i)
Tengo sed (Mae syched arnaf i)
Tengo miedo (Mae ofn arnaf i)
Tengo tos (Mae peswch arnaf i)
Dyma fideo defnyddiol sy’n dangos sut i ddysgu a chanu Tango’r Tengo yn y dosbarth.
Mae Tango’r Tengo yn gân amlieithog, fywiog yn y Gymraeg, Saesneg a Sbaeneg sy’n datblygu’n dôn gron, gyda’r tair iaith yn cael eu canu gyda’i gilydd. Mae’r dysgwyr yn dechrau drwy ddysgu pob rhan ar wahân, cyn cyfuno’r gwahanol alawon ac ieithoedd.
Mae’n ffordd hwyliog o archwilio sut mae ieithoedd yn gweithio, gan gynnwys y ffaith nad yw geiriau ac ymadroddion bob amser yn cyfieithu’n uniongyrchol o un iaith i’r llall.
Meithrin hyder dysgwyr wrth wrando a chanu mewn gwahanol ieithoedd, adnabod tebygrwydd a gwahaniaethau rhyngddynt, a gwrando ar wahanol eiriau ac alawon ar yr un pryd.
Mae Tango’r Tengo yn cefnogi Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, gan annog dysgwyr i greu cysylltiadau rhwng y Gymraeg, y Saesneg ac iaith ryngwladol, wrth ddatblygu sgiliau gwrando, cyfathrebu a hyder.
Mae’r cyfuniad o iaith, cerddoriaeth, rhythm a symud hefyd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer dysgu creadigol a thrawsgwricwlaidd drwy’r Celfyddydau Mynegiannol.
Dechreuwch gyda’r fideo Canu Gyda Ni i ymgyfarwyddo â’r gân, yna gwyliwch y fideo Sut i am ganllaw syml ar sut i’w dysgu i’ch dosbarth.
Dysgwch bob iaith ar wahân yn gyntaf. Unwaith y bydd y dysgwyr yn hyderus, rhowch gynnig ar ganu dwy iaith ar yr un pryd, cyn symud ymlaen at y dôn gron lawn, gyda’r Gymraeg, Saesneg a Sbaeneg yn cael eu canu gyda’i gilydd.
Ochr yn ochr â geiriau’r gân yn y Sbaeneg, rydym wedi cynnwys cyfieithiadau uniongyrchol mewn cromfachau i helpu dysgwyr i ddeall yr eirfa a chreu cysylltiadau rhwng y tair iaith.
Noder: Mae’r rhain yn gyfieithiadau uniongyrchol at ddibenion geirfa a dealltwriaeth; nid ydynt wedi’u bwriadu i’w canu. Gan nad yw geiriau ac ymadroddion bob amser yn cyfieithu’n uniongyrchol o un iaith i’r llall, gall y fersiynau sy’n cael eu canu fynegi’r un syniad mewn ffyrdd gwahanol.
Ychwanegwch ychydig o symud! Mae’r tango yn draddodiadol yn ddawns ddramatig a mynegiannol, felly anogwch y disgyblion i greu symudiadau i gyd-fynd â’r gân. Gallant arbrofi gyda sut mae cerddoriaeth, iaith, rhythm a symud yn gweithio gyda’i gilydd – a chael hwyl wrth ei pherfformio.