Defnyddiwch y saethau yn y gornel dde isaf i chwyddo sgrin y fideo.
Dwi wedi blino, beth yw’r ots?
Dwi wedi blino, beth yw’r ots?
Dwi eisiau dawnsio’r tango, tango, tango tango
Dwi eisiau dawnsio
Mae eisiau bwyd arnaf i
Mae syched arnaf i
Mae ofn arnaf i
Mae peswch arnaf i
I’m tired, I’m tired,
I’m tired, I’m tired
But still I feel like dancing the tango, tango, tango, tango
Yes, I feel like dancing
I’m hungry
I’m thirsty
I’m afraid
I have a cough
Tengo sueño, sin embargo
Tengo sueño, sin embargo
Tengo ganas de bailar el tango, tango, tango, tango
Tengo ganas de bailar
Tengo hambre
Tengo sed
Tengo miedo
Tengo tos
Dyma fideo sy’n dangos sut i ddysgu a chanu Tango’r Tengo yn y Dosbarth.
AMCAN: Cyflwyno’r syniad nad yw pob ymadrodd yn cyfieithu’n union ac annog y dysgwr i wrando ar wahanol donau ac ieithoedd ar yr un pryd.
Chwaraewch y ddau fideo; y fersiwn 'Canu ar y cyd' i ymgyfarwyddo â'r gân, ac yna gwyliwch y fideo 'How To' ymhellach i lawr i ddysgu sut i ddysgu'r gân i'ch dosbarth. Yna defnyddiwch y fersiwn 'Canu ar y cyd' gyda'ch dosbarth.
Beth sydd angen i chi ei wneud:
Gallwch ddewis sut yr ydych am weithio gyda’r gân yma; cyfansoddwyd y gân fel bod un iaith yn cael ei chanu ar ôl y llall - tan y pennill olaf, lle cennir y tri phennill yn y tair iaith ar yr un pryd.
Dechreuwch drwy ddysgu geiriau pob iaith ar wahân. Pan mae’r dysgwyr yn teimlo’n ddigon hyderus, symudwch ymlaen fel eu bod yn canu gyda dwy iaith ar yr un pryd, ac yna’r tair iaith.
Ymestyn: Peidiwch ag angofio i ychwanegu symudiadau. Yn draddodiadol mae’r tango’n ddawns emosiynol iawn – anogwch y dysgwyr i adlewyrchu a dangos hynny!