Chwarae Ar Y Traeth

Torheulo

AMCAN: Annog dysgwyr i ymdrin â deialog yn rhugl a hyderus

Ar ôl dysgu cân y ‘Traeth’, gall y dysgwyr ddefnyddio geiriau’r gân i sgwrsio gyda’i gilydd.

Beth sydd angen i chi ei wneud:

Adroddwch eiriau cân y ‘Traeth’ yn Sbaeneg, Cymraeg a Saesneg. Gofynnwch i’r dysgwyr ailadrodd.

Rhannwch y dosbarth yn ddwy linell (A&B) - yn wynebu ei gilydd.

Mae’r athrawes/athro’n dweud y geiriau’n Gymraeg ac mae’r dysgwyr yn ailadrodd, gan siarad â’r llinell gyferbyn.

 

B: Pan mae’r awyr yn las

A: Ie?

 

B: Ac nid oes cwmwl yn yr awyr

A: Ie…?

 

B: Awn i’r traeth

A:  I’r traeth?

 

B: Y lle gorau yn y byd

 

Nesaf, newidiwch eiriau’r dysgwyr yn llinell B i’r geiriau Sbaeneg, ac yna i’r Saesneg.

Ymestyn:

Gofynnwch i’r dysgwyr gymysgu’r ieithoedd. Er enghraifft, gallai un partner yn llinell A ofyn y cwestiwn yn Sbaeneg, a gallai’r partner yn llinell B ateb yn Saesneg.

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn