Defnyddiwch y saethau yn y gornel dde isaf i chwyddo sgrin y fideo.
Pan ddoi di draw i Gymru, byddi di’n fy ngweld
Pan ddoi di draw i Gymru, byddi di’n f y ngweld
Pan ddoi di draw i’n t ŷ ni
Bydd hynny’n hwyl.
One day when you come over, you will see me
One day when you come over, you will see me
And when you come to our house,
That will be fun.
Un día cuando vengas a Gales me verás
Un día cuando vengas a Gales me verás
Un día en mi casa
¡Fenomenal
AMCAN: Galluogi’r dysgwr i gynnal sgwrs gyda rhywun yng Nghymru gan ddefnyddio ymadrodd cymleth.
Mae tri phennill yn y gân yma; un ym mhob iaith - ond gan ddefnyddio’r un dôn ar gyfer pob pennill.
Bydd angen dysgu cân arall, ‘Cuando Vaya A Patagonia’, ar gyfer ail ran y ‘sgwrs’ yma. Mae ‘Cuando Vaya A Patagonia’ yn defnyddio tôn wahanol.
Beth sydd angen i chi ei wneud:
Dechreuwch drwy wrando ar y geiriau. Pan mae’r dysgwyr yn teimlo’n hyderus, dysgwch eiriau un iaith ar y tro gan gyd-ganu gyda’r fersiwn llawn i ddechrau. Yna, gallwch ddefnyddio’r fersiwn offerynnol os ydych eisiau rhoi prawf iddyn nhw!
Ymestyn
Gofynnwch i’r dysgwyr lunio rhestrau o bethau eraill yr hoffent eu gwneud petai nhw’n ymweld â Chymru. Defnyddiwch adran eirfa thema ‘Fi’ i greu brawddegau newydd.
Gall dysgwyr geisio llunio’r frawddeg hiraf bosib drwy gyfuno nifer o ymadroddion.