AMCAN: Cyfle i ddysgwyr ac athrawon weithio gyda’i gilydd i greu darn o waith i’w rannu gyda dysgwyr o ysgolion eraill a gwledydd eraill.
Mae hyn yn ffordd ardderchog i arddangos gwaith y dysgwyr. Gallwch greu ffilm sy’n rhoi cyfle i’r dysgwyr benderfynnu beth maen nhw eisiau ei rannu a sut maent am ei rannu. Efallai y gallan nhw berfformio un o’r caneuon y dysgon nhw yn un o wasanaethau’r ysgol, neu ddangos un o’r gemau i ddysgwyr newydd. Efallai y byddan nhw eisiau sgwennu sgript mewn tair iaith a ffilmio eu sgyrsiau.
Awgrymiadau ar gyfer gwneud ffilm
- Defnyddiwch raglen fel Windows Movie Maker neu Imovie.
- Mae creu tudalen i gyflwyno’r ffilm yn syniad da. Efallai y gallwch gynnwys enwau pawb sydd wedi cyfrannu i greu’r ffilm.
- Cofiwch gadw’r camera’n hollol lonydd; defnyddiwch dreipod os oes un ar gael.
- Gallwch arbrofi gyda gwahanol ffyrdd o symud o un olygfa i’r nesaf.
- Hefyd, gallwch ddefnyddio ffotograffau yn eich ffilm.
-Ffilmiwch nifer o gynigion (‘takes’) o wahanol onglau fel bod gan eich dysgwyr ddewis o wahanol safbwyntiau wrth greu’r ffilm derfynnol.
Ymestyn
Ar ôl sicrhau caniatád pawb sydd wedi cymryd rhan, fe allech rannu eich ffilm gyda dosbarthiadau eraill yn eich ysgol neu ysgolion eraill yn eich ardal. Gallech hyd yn oed geisio cysylltu ag ysgol yn Sbaen neu’r Ariannin. Gall eich ffilm fod yn gerdyn post cerddorol!