Cuando Vaya a Patagonia

Defnyddiwch y saethau yn y gornel dde isaf i chwyddo sgrin y fideo.

Pan ddof draw i Batagonia, fe’th welaf

Pan ddof draw i Batagonia fe’th welaf

Pan ddof draw i dy dŷ, fe’th welaf

Bydd hynny yn sbri

When I come to Patagonia, I’ll see you

When I come to Patagonia, I’ll see you

When I come to your house, I’ll see you

And that will be fun.

Cuando vaya a Patagonia te veré

Cuando vaya a Patagonia te veré

Cuando vaya a tu casa, te veré

Y me gustará.

AMCAN: Galluogi’r dysgwr i gynnal sgwrs gyda rhywun ym Mhatagonia gan ddefnyddio ymadrodd cymleth.

Mae gan y gân yma dri phennill; un ym mhob iaith - ond gan ddefnyddio’r un dôn bob tro.

Gellir dysgu cân arall, ‘Un Dydd’, ar gyfer ail ran y ‘sgwrs’ yma. Mae cân ‘Un Dydd’ yn defnyddio tôn wahanol.

Beth sydd angen i chi ei wneud:

Dechreuwch drwy wrando ar y geiriau ac ymarfer yr ymadrodd, 'Cuando Vaya a Patagonia’. Pan mae’r dysgwyr yn teimlo’n hyderus, dysgwch eiriau un iaith ar y tro gan gyd-ganu gyda’r fersiwn llawn i ddechrau. Yna, gallwch ddefnyddio’r fersiwn offerynnol os ydych eisiau rhoi prawf iddyn nhw!

Ymestyn:

Gofynnwch i’r dysgwyr lunio rhestrau o bethau eraill yr hoffent eu gwneud yn ystod ymweliad â Phatagonia. Defnyddiwch adran eirfa Patagonia i greu brawddegau newydd.

Gall dysgwyr geisio llunio’r frawddeg hiraf bosib drwy gyfuno nifer o ymadroddion.

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn Lawrlwythiadau