Bydd y dolenni ar y dudalen hon yn mynd â chi at fwy o eirfa - lle gallwch chi ymestyn a datblygu geirfa eich dysgwyr yn ogystal â phrofi eu cynnydd.
Mae ffeil sain ar gyfer y geiriau a’r ymadroddion sydd ar dudalen flaen pob thema. Wrth glicio ar y gair neu’r ymadrodd fe welwch dair baner ar gyfer y tair iaith. Cliciwch ar y faner i glywed sut mae dweud y gair yn Ffrangeg, Cymraeg a Saesneg.
Wrth lwytho’r tudalennau hyn fe welwch fod y geiriau wedi’u ‘cuddio’. Gallwch ‘ddangos’ neu ‘guddio’ unrhyw un (neu unrhyw nifer) o’r geiriau – sy’n rhoi cyfle i chi ‘brofi’ eich dysgwyr, neu gyfle i’r dosbarth adolygu.