Ysgolion

Ysgolion

AMCAN: Gwrando ac ymateb a dysgu geiriau rhifau.

Byddai neuadd neu iard chwarae yn ddefnyddiol ar gyfer y gweithgaredd yma.

Beth sydd angen i chi ei wneud:

Mae’r dysgwyr yn eistedd mewn dwy linell yn wynebu partner. Mae pob pâr o bartneriaid yn cael rhif  (mae’r rhifau’n cael eu rhoi yn eu trefn esgynnol). Mae’r disgyblion yn eistedd ar y llawr gyda’u coesau wedi’u hymestyn allan fel bod gwadnau traed y ddau bartner yn cyffwrdd â’i gilydd. Mae angen gwneud yn siwr fod digon o le rhwng bob pâr a rhyngddynt â’r parau sydd nesaf atynt.

Mae’r athrawes/athro’n sefyll ar ben y rhês o barau ac yn galw rhif yn Sbaeneg neu yn Saesneg.

Rhaid i’r pâr gyda’r rhif yna godi a rasio at yr athrawes/athro drwy’r ysgol o goesau, rownd y tu allan ac yna’n ôl i fyny’r ysgol o goesau i’w man cychwyn.                   

Mae’r disgybl cyntaf yn gweiddi ‘cyntaf’ / ‘primera’ (merched) neu ‘primero’ (bechgyn) / ‘first’.

Mae’r dysgwr sy’n cyrraedd yn ôl gyntaf yn sgorio pwynt i’w tîm. Mae’r sgoriau’n cael eu cyhoeddi yn Sbaeneg/Saesneg.

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn