AMCAN: Creu amgylchedd sy’n gyfoethog o ran defnydd iaith a dangos eich bod yn cyfranogi drwy ystum ac iaith y corff.
Mae hon yn gêm gyflym i gynhesu a chyflwyno thema ‘Natur’ a’r eirfa gysylltiedig. Gellir cyflwyno’r gêm yn yr ystafell ddosbarth gyda’r dysgwyr yn sefyll wrth eu desgiau os oes angen.
Beth sydd angen i chi ei wneud:
Mae’r dysgwyr yn cerdded o gwmpas. Esboniwch wrthynt eich bod yn mynd i ofyn iddyn nhw ‘drawsffurfio’ a throi eu hunain yn rhywbeth gwahanol. Dywedwch y geiriau yn Saesneg neu Sbaeneg i ddechrau ac yna’u cyfieithu i’r Gymraeg.
ee Trawsffurfiwch i fod yn ‘un arbol’ / ‘a tree’/ ‘goeden’
Defnyddiwch yr adran eirfa am ragor o syniadau
Y cam nesaf yw annog y dysgwyr i ‘drawsnewid’ fel grŵp. Dywedwch wrth y dysgwyr faint o bobl sydd eu hangen ym mhob grŵp (yn Sbaeneg neu Saesneg) ac yna..
Trawsffurfiwch i fod yn ‘bosque’ / ‘forest’ / ‘goedwig’
Ymestyn:
Ar ôl trawsnewid, mae’r dysgwyr yn dweud beth ydyn nhw (yn Sbaeneg neu Saesneg)
ee Soy un árbol
I am a tree