Tôn Gron

Defnyddiwch y saethau yn y gornel waelod ar y dde i chwyddo sgrîn y fideo. Dilynwch y dôn yn Sbaeneg. Defnyddir yr un dôn ar gyfer y geiriau Cymraeg a Saesneg.

Dwi’n hoffi siarad Sbaeneg

a Saesneg a Chymraeg,

A dysgu gair fel ‘dragon’,

‘dragon’ ac yna ‘draig.’

I love the Spanish language,

And Welsh and English too,

And one day when I’m older

I’ll come and visit you.

Me gustan los guanacos,

me gusta el fútbol,

Me gustan los chubascos,

me gusta más el sol.

Amcan: Cyflwyno ymadrodd syml fel ‘Dwi’n hoffi’ i’r dysgwyr, a dechrau cyflwyno geirfa benodol ar gyfer themâu a gwledydd penodol.

Mae tri phennill yn y gân, Tôn Gron – pennill yr un yn y tair iaith gan ddefnyddio’r un dôn ar gyfer pob pennill.

Beth sydd angen i chi ei wneud:

Dechreuwch drwy edrych ar eiriau’r penillion yn y tair iaith a gwrandewch ar sut i’w dweud, llinell wrth linell. Ar ôl dysgu’r geiriau, gwrandewch ar y gerddoriaeth. Gallwch ddewis gwrando ar y dôn yn unig, neu gyda chantorion yn canu.

 

Gallwch ddewis sut yr ydych eisiau gweithio gyda’r gân; efallai y byddwch yn rhannu’r dosbarth yn grwpiau gwahanol gyda phob grŵp yn cymryd tro i ganu mewn iaith wahanol. Pan fyddwch yn teimlo’n barod i symud ymlaen, gallwch roi cynnig ar gannu’r gân fel tôn gron. Mae gyda ni esiampl y gallwch wrando arno i weld sut mae’n gweithio.

Ymestyn:

Newidiwch eiriau yn y gwahanol ieithoedd. Er enghraifft, yn hytrach na ‘Dwi’n caru’r iaith Sbaeneg’, gallech ganu ‘Dwi’n caru’r traeth yn yr haf...’

 

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn Lawrlwythiadau