AMCAN: Ymateb yn gorfforol i eiriau amlieithog. Defnyddio amrywiaeth o ddulliau gwrando i gasglu a diddwytho ystyr a sylwi ar y gwahaniaethau a’r tebygrwydd rhwng yr ieithoedd y maen nhw’n eu dysgu drwy eu cymharu.
Mae’r dysgwyr yn cerdded o gwmpas gan ddilyn pedwar gorchymyn syml :
Parar, Stop, Stopio
Ir, Go, Mynd
Aplaudir, Clap, Clapio
Saltar, Jump, Neidio
Nesaf, gofynnwch i’r dysgwyr wneud y gwrthwyneb i’ch gorchymyn; pan mae’r athrawes/athro’n dweud ‘Stopio’ rhaid iddyn nhw symud. Pan mae’r athrawes/athro’n dweud ‘Mynd’, rhaid iddyn nhw stopio.
Ymestyn:
Gellir amrywio’r gweithgaredd drwy ddefnyddio’r adran eirfa:
Sentarse, Sit, Eistedd
Acostarse, Lie Down, Gorwedd
Correr, Run, Rhedeg
Caminar, Walk, Cerdded