Port a Starbord

Feet running on beach

AMCAN: Datblygu sgiliau gwrando a sgiliau iaith trwy gyfrwng gêm gorfforol i’r grŵp cyfan. Dangos eich bod yn cyfranogi drwy ystum ac iaith y corff. Cyfrannu i weithgareddau grŵp a rhyngweithio’n gymdeithasol gyda chyfoedion a deall pryd mae’n briodol i ymuno a chymryd rhan.

Mae’r gweithgaredd yma’n seiliedig ar y gêm i blant, ‘Port a Starboard’ (Ochr Chwith ac Ochr Dde’r Llong). Mae angen neuadd ysgol, iard/cae chwarae neu ystafell ddosbarth fawr wedi’i chlirio i’w chwarae.

Mae’r athrawes/athro’n esbonio fod angen gwrando am gyfres o orchmynion, a bod angen ymateb corfforol ar gyfer pob un. Mae’n werth ymarfer y gorchmynion a’r ymateb cyn dechrau’r gêm. 

Awgrym Defnyddiol #1: Wrth chwarae mynnwch fod y rheini sy’n olaf neu sy’n gwneud camgymeriad yn gadael y gêm.

Awgrym Defnyddiol #2:  Rhannwch y dosbarth yn ddau grŵp - un grŵp yn rhoi’r gorchmynion a chadw’r sgôr / y grŵp arall yn ymateb i’r gorchmynion.

Gorchmynion  /  Gweithredoedd

Cyflwynwch y gorchmynion yn Sbaeneg a Saesneg. Mae’r athrawes/athro’n helpu’r dysgwyr wrth ddangos y weithred wrth ddweud y gorchymyn yn Sbaeneg neu Saesneg.

Y Môr - Rhedeg i un ochr y neuadd

Y Tywod -  Rhedeg i’r ochr gyferbyn â’r môr

Y Glaswellt -  Rhedeg i un ochr y neuadd

Y Caffi - Rhedeg i’r ochr gyferbyn ag ochr y glaswellt

Ymestyn:

Ychwanegwch orchmynion eraill gan ddefnyddio’r adran ‘Mwy o Eirfa’ isod.

Cwch (+ rhif) ee “cwch bach 4”  – dysgwyr yn eistedd mewn llinell o 4 ar y llawr rhwng coesau’i gilydd.

Palu yn y tywod – Dysgwyr yn penglinio a meimio cloddio twll

Torheulo/Gorwedd yn yr haul – Dysgwyr yn gorwedd ar eu cefnau

Nofio – meimio nofio o gwmpas yr ystafell/neuadd/iard

Hedfan Barcud – mewn parau, dal dwylo a sgipio a meimio hedfan barcud

Taflu ffrisbi – mewn parau, meimio taflu ffrisbi

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn Geiriau