Mae’r Haul yn Tywynnu

Haul yn yr awyr
Dangos Cuddio
Dangos Cuddio
Dangos Cuddio

AMCAN: Canolbwyntio ar sgiliau gwrando. Cynhesu’r corff a’r llais. Paratoi’r dysgwyr i fentro a chymryd risg, a dysgu mewn amgylchedd mwy creadigol ac amlieithog.

Mae’r dysgwyr yn eistedd ar gadeiriau mewn cylch mawr. Mae’r athrawes/athro yn esbonio’r rheolau ac yna’n sefyll yn y canol i ddechrau’r gêm.

Mae’r athrawes/athro’n dweud: ‘Mae’r haul yn tywynu ar unrhyw un sy’n...’ yn Sbaeneg neu Saesneg, ac yna’n gorffen y frawddeg yn Gymraeg.

Er enghraifft:

Mae’r haul yn tywynnu ar unrhyw un sy’n...gwisgo esgidiau du.

El sol brilla sobre cualquiera que…wedi cael brecwast bore ‘ma.

Os yw’r ffaith yma’n wir am unrhyw un o’r dysgwyr (ee pawb sy’n gwisgo esgidiau du), rhaid i bob un ohonynt godi a cheisio cyfnewid lle (cadair) gyda rhywun arall. Rhaid i’r dysgwr sydd ar ôl yn y canol, heb gadair, gyflwyno datganiad newydd sy’n wir amdani/amdano ei hunan.

ee

The sun shines on anyone who…..hoffi cathod.

El sol brilla sobre cualquiera que… sydd â brawd. 

Mae angen nodi rhai rheolau pwysig wrth y disgyblion cyn dechrau:

Rhaid i’ch datganiad fod yn ffaith sy’n wir amdanoch chi.

Ni chewch gyfnewid cadair gyda’r person sy’n eistedd drws nesaf i chi, heblaw mai chi yw’r unig ddau sy’n codi mewn ymateb i’r datganiad o’r canol.

Ni chewch godi ac yna eistedd yn ôl yn yr un gadair.

Dim rhedeg na chyffwrdd unrhyw un arall yn ystod y gêm.

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn