AMCAN: Rhoi cyfle i’r dysgwyr ‘ddod i arfer’ â’u cyrff a chynhesu eu lleisiau a’u cyrff, mireinio eu sgiliau gwrando a thanio eu dychymyg creadigol. Cyflwyno cyfarchion syml yn Sbaeneg/Saesneg.
Mae’r dysgwyr yn sefyll mewn cylch yn y dosbarth. Maen nhw’n cyflwyno eu hunain gyda’r cyfarchiad: ‘Helo, fy enw i yw..’ - yn Sbaeneg neu Saesneg gan ychwanegu ystum neu symudiad abstract wrth ddweud y cyfarchiad. Gall hyn fod yn rhywbeth syml fel chwifio llaw, wiglo eich cluniau, ymestyn neu naid seren..
Ar ôl i bob dysgwr gyflawni hyn, mae’r dosbarth cyfan yn dweud y cyfarchiad a gwneud eu symudiadau gyda’i gilydd.
Ymestyn:
Defnyddiwch adran ‘Geirfa Thema ‘Fi’ i adeiladu ac ymestyn brawddegau’r cyfarchion.
Helo, fy enw i yw….a fy hoff hobi / fwyd / chwaraeon yw...(ynghyd â symudiad i ddangos yr hoff beth yna).
Hola mi nombre es…. y mi pasatiempo favorito es... (hobi) / mi comida favorita es... (bwyd) / mi deporte favorito es... (chwaraeon)
Hello my name is…. and my favourite hobby / food / sport is...