Ewch â fi i Batagonia

Amcan: Cyflwyno thema ‘Patagonia’, archwilio diwylliant a hanes Cymru, a dechrau clywed a defnyddio ychydig o Gymraeg a Sbaeneg wrth gael hwyl yn creu lluniau wedi’u rhewi.

Gofynnwch i’r dysgwyr feddwl am fordaith y Cymry a hwyliodd i Batagonia ar long y Mimosa. Anogwch nhw i ddychmygu sut byddai’r teithwyr wedi teimlo a beth fydden nhw wedi ei weld ar y fordaith. Yna gofynnwch i’r dysgwyr greu llun wedi’i rewi o ran o’r llong neu rywbeth ar y llong.

Beth sydd angen i chi ei wneud:

Mae’r dysgwyr yn sefyll mewn cylch mawr. Yn eu tro maen nhw’n camu i ganol y cylch a gwneud ystum i gyfleu rhan o’r llong, ac yna rhewi’r ystum.

Wrth iddynt rewi’r ystum, maen nhw’n dweud beth ydynt, gyda’r geiriau “Dwi yn...” ee Dwi yn fast y llong. Mae hyn yn parhau nes bod pob dysgwr wedi camu i mewn i’r cylch a chymryd ei le yn y llun grŵp wedi’i rewi.

Gall y geiriau “Dwi yn...” fod yn Saesneg neu Sbaeneg. Wrth i eirfa’r dysgwyr gynnyddu gydag amser, gellir cynyddu’r defnydd o’r Saesneg a’r Sbaeneg yn y frawddeg.

Dyma rhai enghreifftiau

 

Disgybl 1: I am / Soy / Dwi yn … fast y llong

Disgybl 2: I am / Soy / Dwi yn … hwyl y llong

Disgybl 3: I am / Soy / Dwi yn...deithiwr sy’n teimlo’n sâl ar y môr

Disgybl 4: I am / Soy / Dwi yn … llygoden fawr ar fwrdd y llong

Disgybl 5: I am / Soy / Dwi yn... gath ar y llong yn rhedeg ar ôl y llygoden fawr

Disgybl 6: I am / Soy / Dwi yn...un o’r teithwyr mwyaf ifanc ar y llong

Disgybl 7: I am / Soy / Dwi yn … forfil ym Môr yr Iwerydd

Disgybl 8: I am / Soy / Dwi yn...gapten ar long y Mimosa

Ymestyn:

Syniadau eraill am Luniau Grŵp wedi’u Rhewi:
Y teithwyr yn cyrraedd Patagonia neu’r cabanau lle mae’r teithwyr yn byw ar ôl cyrraedd.
Cynyddu geirfa ac yna dweud y frawddeg gyfan yn Saesneg neu Sbaeneg.

 

 

Ewch â fi i Batagonia– Gweithgaredd Bwrdd Gwyn