Dwi’n Mynd i Ddod â

Packing a suitcase
Dangos Cuddio
Dangos Cuddio
Dangos Cuddio

AMCAN: Ystyried effaith diwylliant ac iaith ar ei gilydd, ac archwilio hanes Cymru a’r iaith Gymraeg a’r Sbaeneg mewn ffyrdd dychmygus a chreadigol.

Mewn cylch, neu yn eu seddau yn y dosbarth, mae’r dysgwyr yn dychmygu mai nhw yw’r teithwyr sy’n paratoi hwylio i Batagonia yn 1865. Mae’r athrawes/athro yn arwain sgwrs am y cyfnod yma a gofyn i’r dysgwyr ystyried beth fyddai’r teithwyr eisiau mynd gyda nhw ar y daith.

Yn eu tro, mae’r dysgwyr yn cyflwyno eu hunain ac yn dweud beth fydden nhw wedi mynd gyda nhw ar y daith. Rhaid iddyn nhw ailadrodd yr holl eitemau eraill a gafodd eu dewis gan y disgyblion o’u blaen, cyn iddynt enwi eitem eu hunain.

Gall y dysgwyr wneud symudiad neu ystum i gyd-fynd â’r eitem y maent wedi ei dewis.

Y tro cyntaf, mae’r dysgwyr yn defnyddio’r enwau Cymraeg ar gyfer yr eitemau

ee Hello, my name is Clare and I am going to bring….blancedi cynnes

Ymestyn:

Ymhen amser, gall y dysgwyr ddefnyddio’r adrannau geirfa a gweithio i ddweud y frawddeg gyfan yn Sbaeneg neu Saesneg.

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn