Cyfri

Wooden numbers

AMCAN: Cymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp a rhyngweithio gyda chyfoedion, dysgu pryd mae’n briodol i ymuno a chyfrannu, a gallu cyfri o 1 i 10 yn Gymraeg, Saesneg a Sbaeneg.

Gofynnwch i’r dysgwyr sefyll mewn cylch a chyfri gyda’i gilydd o 1 i 10, ac yna’n ôl i 1 yn Saesneg a Sbaeneg. Pan fyddan nhw’n ddigon hyderus, y cam nesaf yw gofyn i un person ar y tro siarad ac esbonio mai dim ond unwaith y gall unrhyw un siarad. Os oes mwy nag un person yn siarad ar yr un pryd, rhaid i’r grŵp ddechrau o’r dechrau eto. Does neb yn cael cynllunio’r drefn cyn cychwyn cyfri a does dim un person yn cael arwain y cyfri.

Ymestyn

Ffeindio beth yw’r rhifau o 11 – 20 yn Sbaeneg a Saesneg, a dechrau eto!

 

Cyfri- Gweithgaredd Bwrdd Gwyn