Cyfarchion

Cyfarchion

AMCAN: Cyflwyno’r syniad o ieithoedd o wahanol rannau o’r byd i’r dysgwyr fel eu bod yn dechrau clywed a defnyddio cyfarchion mewn ieithoedd heblaw eu mamiaith.

Mae hwn yn fan cychwyn da i brosiect iaith gan ei fod yn rhoi blas o wahanol ieithoedd i’r disgyblion. Rydyn ni’n defnyddio baner pob gwlad i ddynodi iaith y wlad honno.

Gallwch glywed trac sain o’r cyfarchiad mewn gwahanol ieithoedd drwy glicio’r botwm ‘Gweithgaredd Bwrdd Gwyn’ isod, dewis y faner briodol a chlicio’r eicon sain. Gofynnwch i’r dysgwyr ailadrodd y cyfarchion.

Pan mae’r dysgwyr yn hyderus gyda nifer o’r cyfarchion, pwyntiwch at y baneri a gofynnwch iddyn nhw ddweud y cyfarchiad heb glywed y trac sain gyntaf.

Ymestyn: Gofynnwch i’r disgyblion os ydyn nhw’n gwybod am ieithoedd eraill, ac os ydyn nhw’n gallu dweud ‘Helo’ mewn iaith arall.

Greetings - Whiteboard Activities