Defnyddiwch y saethau yn y gornel waelod ar y dde i chwyddo sgrin y fideo.
Helo, shwmae?
Sut ydych chi?
Sut wyt ti?
Da iawn, diolch!
Da iawn, diolch!
Da iawn, diolch!
How do you do?
How are you?
How’s it going?
I’m feeling fine!
I’m feeling fine!
I’m feeling fine!
¿Cómo estás?
¿Cómo está?
¿Cómo te vá?
Estoy bien!
Estoy bien!
Estoy bien!
AMCAN: Cyflwyno ymadroddion defnyddiol yn Gymraeg, Sbaeneg a Saesneg i’r dysgwyr a gwreiddio’r syniad fod, yn aml, mwy nag un ffordd o ddweud rhywbeth.
Mae’r gweithgaredd yma’n ffordd ddelfrydol i ddechrau cyflwyniad arddangos o ddulliau dysgu ieithoedd neu i arddangos gwaith dosbarth.
Beth sydd angen i chi ei wneud:
Gwylio’r fideo a dysgu geiriau’r tair cân yn y tair iaith wahanol.
Rhannwch y dosbarth yn dri grŵp. Gwnewch yn siwr fod dysgwyr sy’n ganwyr cryf a hyderus ym mhob grŵp.
Gall fod yn syniad da i gychwyn drwy ymarfer yn araf, heb y cyfeiliant. Gallwch weithio drwy’r camau canlynol:
- Mynd trwy eiriau’r penillion ym mhob iaith yn unigol i ddechrau
- Cyfuno penillion mewn dwy iaith.
- Pan mae’r dysgwyr yn ddigon hyderus, ychwanegu’r drydedd iaith.
- Mynd drwy’r cyfan gyda’r fideo – manteisio ar ganwyr y fideo fel cefnogaeth ychwanegol.
Un her olaf – defnyddio’r fersiwn o’r fideo gyda’r cyfeiliant yn unig.
Mae geiriau, nodiant, ffeiliau sain a fideo ar gael yn yr adran Lawrlwythiadau isod