Beth yw’r Amser, Mr Blaidd?

Alarm clock
Dangos Cuddio
Dangos Cuddio
Dangos Cuddio

AMCAN: Defnyddio gêm draddodiadol a hwyliog i ddysgu geirfa’r cloc 12 awr ac amseroedd prydau bwyd.

Mae un dysgwr - ‘Mr Blaidd’ - yn sefyll ym mhen draw’r neuadd. Mae gweddill y dosbarth yn sefyll yn y pen arall. Maen nhw’n gofyn:

Qué hora es , señor lobo?

What’s the time Mr Wolf?

Beth yw’r amser Mr Blaidd?

Unai gall Mr Blaidd ddweud faint o’r gloch yw hi:

ee:  Es la una en punto / It’s one o’clock/ Mae hi’n un o’r gloch

...os felly, gall y dysgwyr gymryd cam ymlaen, ac yna gofyn eto. Os yw Mr Blaidd yn dweud ei bod hi’n saith o’r gloch, rhaid iddyn nhw gymryd saith cam, gan gyfri wrth gamu…

Neu, gall Mr Blaidd ddweud:

Es la hora de cenar / It’s dinner time/ Mae hi’n amser cinio 

..cyn rhedeg ar ôl y dysgwyr eraill a cheisio dal un ohonyn nhw cyn iddyn nhw gyrraedd yn ôl i’r man diogel.

Y person cyntaf sy’n cael ei ddal yw’r blaidd newydd.

Ymestyn:

Defnyddiwch ymadroddion Saesneg a Sbaeneg gwahanol

 

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn Mwy Geiriau