Amdana i

Children, teacher, globe

AMCAN: Gêm i dorri’r garw a chynhesu. Bydd y dysgwyr yn dysgu ffeithiau am ei gilydd a dysgu geirfa sylfaenol ar gyfer y thema, ‘Fi’

Beth sydd angen i chi ei wneud:

Cyflwynwch y lliwiau canlynol i’r dysgwyr

Glas / Brown / Gwyrdd

Azul / Marron / Verde

Blue / Brown / Green

Gofynnwch i’r dysgwyr ffurfio grwpiau gyda phobl sydd â’r un lliw llygaid â nhw - gan ddefnyddio dim ond y geiriau unigol yr ydych wedi eu cyflwyno iddynt.

Nesaf, gallwch gyflwyno rhifau..

Un, Dau, Tri, Pedwar, Pump

Uno, Dos, Tres, Cuatro, Cinco

One, Two, Three, Four, Five

Gofynnwch i’r dysgwyr ffurfio grwpiau o bobl sy’n gwisgo esgidiau’r un maint â nhw.

Mae… gyda fi / Tengo… / I have…

Ymestyn:

Defnyddiwch yr adran eirfa i ymestyn y gweithgaredd. Gallech ddefnyddio:

nifer o frodyr / chwiorydd / anifeiliaid anwes

hoff fwydydd / chwaraeon

hoff lefydd maent wedi ymweld â nhw

Wrth i’r dysgwyr ddysgu mwy o eiriau, gallwch chwarae mwy ac ymestyn hyn.

Mwy o eirfa ar gyfer thema ‘Fi’

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn