1 2 3 Clapio Neidio Taro Troed

Hands clapping

AMCAN: Canolbwyntio a gwrando er mwyn tynnu casgliadau ac ymateb yn eiriol a chorfforol.

Beth sydd angen i chi ei wneud:

Rhannwch y dysgwyr yn barau a gofynnwch iddyn nhw gyfri o 1-3 yn Gymraeg neu Sbaeneg, am yn ail â’i gilydd.

Nawr, (yn lle dweud y rhif 1) gofynnwch iddyn nhw roi clap a dweud ‘Clapio’ / ‘Aplaudir’ / ‘Clap’ wrth wneud.

Nesaf, newidiwch y rhif 2 am naid, a dweud: ‘Neidio’ / ‘Saltar’ / ‘Jump’.

Yna, newidiwch y rhif 3 am stamp a dweud: ‘Stampio’ ‘Zapatear’ / ‘Taro Troed’.

Ymestyn:

Newid geiriau’r gweithredoedd – defnyddiwch y canlynol:

'Chwifio’ / ‘Saludad’ / ‘Wave’

 ‘Clicio’ / ‘Hacer clic’ / ‘Click’

 ‘Troi’ / ‘Girar’ / ‘Turn’

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn