Ysgwyd Dwylo

Dangos Cuddio
Dangos Cuddio
Dangos Cuddio

AMCAN: Cyflwyno ffordd newydd o weithio i’r grŵp. Cymysgwch y grŵp drwy’i gilydd. Anogwch y dysgwyr i symud o gwmpas wrth iddyn nhw ailadrodd cyfarchiad newydd yn Gymraeg/Saesneg. Cyflwyno’r cysyniad o ‘gof y corff’(muscle memory).

Mae’r dysgwyr yn cyflwyno eu hunain i’w cyd-ddysgwyr yn eu tro, yn Almaeneg neu Saesneg.

Rydych chi’n cyflwyno’ch hunan drwy ysgwyd llaw â rhywun. Wrth ddal i afael yn llaw’r person cyntaf, ffeindiwch berson arall. Ysgwydwch law’r ail berson gyda’ch llaw rydd, a chyflwynwch eich hunan iddyn nhw.

Nawr gollyngwch law’r person cyntaf ac ewch i ffeindio trydydd person. Daliwch i gydio yn llaw’r trydydd wrth i chi ollwng llaw’r ail berson, ac yna ewch i ffeindio pedwerydd person..ac felly ymlaen nes eich bod wedi ysgwyd llaw pawb yn yr ystafell.

Awgrym Defnyddiol: Gwyliwch y fideo. Fe welwch fod y gweithgaredd yma’n haws os yw pawb yn sefyll mewn cylch.

 

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn