Pêl Goch

Dangos Cuddio
Dangos Cuddio
Dangos Cuddio

Amcan: Defnyddio amrywiaeth o ddulliau gwrando i gasglu a diddwytho ystyr. Sgiliau ffocysu, canolbwyntio a gwrando.

Mae’r dysgwyr yn sefyll mewn cylch.

Mae Dysgwr 1 yn taflu pêl goch ddychmygol i ddysgwr arall (Dysgwr 2) ar ochr draw’r cylch.

Wrth wneud hynny, mae’n dweud enw’r person y mae’n taflu ati/ato, ac yna’n dweud “Pêl goch”.

Wrth ddal y bêl goch ddychmygol, mae Dysgwr 2 yn dweud:

“Pêl goch. Diolch”.

Mae’r gêm yn datblygu fel hyn:

D1: (ENW) Pêl goch (Taflu’r bêl ddychmygol)

D2: Pêl goch. Diolch. (Dal y bêl ddychmygol)

D2: (ENW) Pêl goch (Taflu’r bêl ddychmygol)

D3: Pêl goch. Diolch. (Dal y bêl ddychmygol)

D3: (ENW) Pêl goch (Taflu’r bêl ddychmygol)

Ymestyn:

Yn raddol, cyflwynwch dri o eitemau eraill sy’n gysylltiedig â’r traeth (gan ddefnyddio’r adran eirfa isod)..nes bod 4 o eitemau’n symud o gwmpas y cylch.

Yellow bucket / Bwced melyn / Gelber Eimer

Green spade / Rhaw werdd / Grüne Schaufel

Blue deckchair / Cadair las / Blauer Liegestuhl

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn Geiriau