Amcan: Mae’r gweithgaredd hwn yn annog dysgwyr i ymestyn geirfa.
Mae’r athro’n rhannu’r dosbarth yn ddau grŵp. Mae’r ddau grŵp yn derbyn cardiau gydag aelod o’r teulu arno (e.e. ewythr) Mae un grŵp yn yn Almaeneg, a’r llall yn Gymraeg/Saesneg. Gall disgyblion ddefnyddio’r gair ar y cerdyn i ddod o hyd i’w partner ‘cyfieithu’.
Gall yr athro ddefnyddio’r gân “Schritt für Schritt” i ddechrau, oedi a stopio’r gweithgaredd.
Beth sydd angen ei wneud:
Y disgyblion i ddod yn gyfarwydd â’r eirfa.
Ychwanegiad:
Gall y disgyblion gadw’r cerdyn pan maen nhw’n llwyddo i ddod o hyd i bartner, a chael un newydd. Yn y diwedd gallan nhw gyfri eu cardiau.