Helo Fy Enw i Yw

Kids with hello signs
Dangos Cuddio
Dangos Cuddio
Dangos Cuddio

Nod: Annog disgyblion i gynhesu eu lleisiau a’u cyrff, mireinio eu sgiliau gwrando a thanio’u dychymyg creadigol. Cyflwyno cyfarchion syml yn Gymraeg/Almaeneg/Saesneg.

Mewn cylch neu yn sefyll yn y stafell ddosbarth, mae disgyblion yn cyflwyno’u hunain gyda’r ymadrodd ‘Helo, fy enw i yw…’ yn Almaeneg/Saesneg neu Gymraeg, ac ychwanegu symudiad haniaethol wrth iddyn nhw ei ddweud.

Gall y symudiad fod mor syml ag ysgwyd llaw neu’r cluniau neu naid seren neu ymestyn. Wedi iddyn nhw wneud hyn i gyd, mae’r disgyblion yn ailadrodd y frawddeg a’r symudiad gyda’i gilydd.

Ychwanegiad:

Defnyddio’r adran Geirfa  i adeiladu’r brawddegau:

Hello my name is…. and my favourite hobby / food / sport is... (plus action demonstrating that favourite thing).

Hallo, ich heiße…. und mein Lieblingshobby ist... (hobby) / / mein Lieblingsessen ist... (food) / mein Lieblingssport ist... (sport)

Helo fy enw i yw… ac fy hoff ddiddordeb yw... (hobby) / fy hoff fwyd yw… (food) / fy hoff chwaraeon yw... (sport)

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn